Buddion a Manteision

Rydym yn cydnabod fod gan bobl ymrwymiadau y tu allan i'w gwaith ac yn cynnig amgylchedd gwaith dymunol iawn sy'n caniatáu i'n gweithwyr gyflawni'r cydbwysedd gwaith/bywyd sy'n gweithio orau iddynt hwy.

YN OGYSTAL Â CHYFLOG TEG A DILYNIANT GYRFA, RYDYM YN CYNNIG AMRYWIAETH O FUDDION


Cyflogau Cystadleuol

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus iawn felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol o fewn y sectorau addysg uwch a masnachol. Nodir bandiau cyflog ar gyfer pob swydd pan gânt eu hysbysebu, a bydd staff yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa gyflog o fewn y band hwnnw ac yn cael cynnydd blynyddol i'w cyflog.

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gyfle cyfartal o ran taliadau, cyflog, a dilyniant gyrfa i bob aelod staff o fewn fframwaith sy'n deg, yn dryloyw ac yn gyson.

Pensiynau

Mae Prifysgol Bangor yn gweithredu dau gynllun pensiwn galwedigaethol. Gwahoddir pob aelod staff newydd (rhwng 18-60 oed) i ymuno â’r naill gynllun neu’r llall. Rydym yn cynnig y cyfle hefyd i ymuno â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cynilion Cyflogaeth (NEST).

Gall gweithwyr dalu trwy aberthu o’u cyflog i gynyddu eu cynilion.

Gweithio Oriau Hyblyg

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio oriau hyblyg sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw. Gallwch drafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi gyda'ch rheolwr llinell.

Gwyliau

Rydym yn cynnig hawl gwyliau hael o 27 diwrnod yn ogystal â gwyliau banc a saith diwrnod o wyliau prifysgol ychwanegol.

Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu

Absenoldeb Mamolaeth: Rydym yn cynnig absenoldeb mamolaeth hael a chyflog i bob aelod staff, waeth beth yw hyd eu gwasanaeth.

Absenoldeb Tadolaeth: Mae gan bob aelod staff yr hawl i gymryd uchafswm o bythefnos i ffwrdd, ar gyflog llawn.

Absenoldeb Rhiant a Rennir: Rydym hefyd yn cynnig absenoldeb rhiant a rennir sy'n eich galluogi chi a'ch partner i rannu 52 wythnos o absenoldeb dros y flwyddyn gyntaf. Efallai y bydd gennych hawl hefyd i dâl absenoldeb rhiant a rennir ychwanegol am rywfaint o gyfnod eich absenoldeb, neu am y cyfnod cyfan y dewiswch yn ei gymryd.

Absenoldeb Mabwysiadu: Rydym yn cynnig absenoldeb mabwysiadu ychwanegol a chyflog i bob aelod staff, waeth beth yw hyd eu gwasanaeth.

Prynu gwyliau blynyddol

Gall staff brynu gwyliau blynyddol ychwanegol trwy drefniant aberthu cyflog.

Cynllun beicio i'r gwaith

Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i weithwyr elwa ar logi beiciau ac offer fel goleuadau a chloeon dros y tymor hir. Mae'n cynnig ffordd ddi-dreth o wella’ch iechyd.

Cyfleusterau Meithrinfa

Mae Tir na n-Og (gwlad hudol y bythol ifanc mewn mytholeg Geltaidd) yn feithrinfa ddielw a sefydlwyd gan Brifysgol Bangor yn Safle'r Normal, Bangor. Mae'r feithrinfa yn agored i bawb, yn cynnwys holl fyfyrwyr a staff y brifysgol a'r cyhoedd.

Gall gweithwyr prifysgol gael gofal plant mwy fforddiadwy trwy gyfrwng ein trefniant cyfnewid cyflog.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Rydym yn cynnig Rhaglen Cymorth i Weithwyr (VIVUP) i helpu aelodau staff ddelio â straen bywyd-gwaith, problemau teuluol, pryderon ariannol, problemau perthynas, a phryderon ehangach eraill. Mae ar gael i aelodau staff a'u teuluoedd ac mae'n anelu at gael effaith gadarnhaol ar eu lles.

Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae'r brifysgol wedi mabwysiadu nifer o ddulliau i hyrwyddo a phrif ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgareddau. Gwelwch ein tudalennau cyfle cyfartal am wybodaeth bellach.

Hyfforddi a Datblygu

Rydym yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd i staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol.p>

Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol Mewnol

Mae'r brifysgol yn elwa o gael Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol ar y safle.

Undeb Credyd

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno ag Undeb Credyd Cambrian i gynnig ffordd hawdd i'n staff grynhoi cynilion neu fenthyca arian ychwanegol pan fyddwch ei angen.

Buddion eraill heb aberthu cyflog

  • Bellach mae gan staff y brifysgol hawl i gael yr un gostyngiadau gwych a gynigir i fyfyrwyr sydd â Cherdyn Gostyngiad NUS Extra.
  • Clwb Teithio Arriva i Weithwyr - mae'n galluogi staff i deithio ar fysus am bris gostyngedig ar lwybrau bysiau Arriva.
  • Mae gan aelodau staff hefyd yr hawl i raddfeydd gostyngedig yng Nghanolfan Chwaraeon a Hamdden y Brifysgol.
  • Gall staff y brifysgol yn awr ystyried a gwneud cais am nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau a lleoedd am brisiau gostyngedig i'w plant yng Ngholeg Myddleton.
  • Mae'r Serious Cycle Scheme yn cynnig yswiriant am ddim i staff y brifysgol.
  • Mae cwmni cyfreithwyr Mackenzie Jones yn cynnig gostyngiad i staff Prifysgol Bangor.
  • Mae Express Conveyancing yn cynnig gostyngiad o hyd at 20% i staff y brifysgol ar ffioedd cyfreithiol.
  • Hacker & Case - Gall staff gael gostyngiad o 10% trwy brynu eitemau ar-lein.
  • Cotswold Outdoor - Mae gostyngiad o 15% yn y siop ac ar-lein ar gael i staff.
  • Mae gostyngiadau corfforaethol ar gael trwy Hertz Autotravel.
  • Mae'r brifysgol yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol ac aelodaeth o'r gampfa yng Nghanolfan Brailsford am brisiau gostyngedig i'w gweithwyr.
  • Mae staff y brifysgol yn derbyn gostyngiad corfforaethol yng Nghlwb Ffitrwydd DW ar Ffordd Caernarfon ym Mangor.
  • Gall staff gael gostyngiadau ar rai o eitemau meddalwedd cyfrifiadurol Microsoft, gan gynnwys Microsoft Office.
  • Ymwadiad