Gwaith ym Mangor

Chwilio am Swyddi

Mae Prifysgol Bangor yn cyflogi staff mewn amrywiaeth eang o swyddi yn cynnwys swyddi academaidd, gweinyddu, gwaith llaw a phroffesiynol. Mae swyddi'n cael eu hysbysebu pan fydd swyddi gwag yn codi, felly os na fyddwch yn cael hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano y tro hwn, ewch i'r wefan yn rheolaidd i wirio ein swyddi gwag diweddaraf.

Mae Bangor yn sefydliad unigryw, yn brifysgol uchelgeisiol sydd wedi’i seilio ar ei gwreiddiau Cymreig, rhagoriaeth ymchwil a ffocws myfyriwr-ganolog. Wedi’n lleoli ar arfordir trawiadol Gogledd Cymru, dim ond tafliad carreg o barc cenedlaethol Eryri rydym yn cael ein hysgogi gan ein calon Gymreig a’n cymuned ryngwladol.

Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a phwyslais mawr ar brofiad y myfyrwyr. Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd, gyda staff addysgu wedi eu lleoli mewn naw o ysgolion academaidd. Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi ei gosod mewn safle uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth (REF2021), gyda 85% gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Mae ymchwil Bangor yn y Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn 15fed yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n adeiladu ar y cryfderau ymchwil sydd gennym yn y Gwyddorau Dynol ac mae’n helpu datblygu iechyd a gofal cymdeithasol at y dyfodol a hynny’n gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn hybu twf y sector gwyddorau bywyd rhanbarthol.

Cafodd Prifysgol Bangor lwyddiant cyson yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac mae gyda’r 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig yn rheolaidd (ac eithrio sefydliadau arbenigol) am foddhad myfyrwyr. Prifysgol Bangor oedd y gyntaf yng Nghymru i dderbyn Safon Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) cenedlaethol, a daliodd ei gafael ar y safon honno tra bu’r Fframwaith yn weithredol.

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym felly yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned waeth beth fo'u rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg trwy ein Polisi Iaith Gymraeg blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Saesneg neu Gymraeg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi derbyn gwobr Efydd i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol a'r cynnydd o wnawn o fewn polisïau, arferion a diwylliant y brifysgol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.

A ydych chi ar hyn o bryd, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn y gorffennol? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i chi fel llofnodwr i Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Beth bynnag fo'ch maes arbenigedd, mae Prifysgol Bangor yn cynnig amgylchedd ysgogol a buddiol i fyw a gweithio ynddo. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.